27 Ionawr 2016
Annwyl Weinidog
Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17
Diolch ichi am ddod i gyfarfod y Pwyllgor ar 21 Ionawr 2016 i ateb cwestiynau am gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17.
Hoffai’r Pwyllgor dynnu eich sylw at y materion a nodir isod, ac edrychwn ymlaen at gael eich ymateb, fel y bo’n briodol, cyn gynted â phosibl.
Asesiad Effaith Integredig Strategol
Rydym yn cydnabod mai nod yr Asesiad Effaith Integredig Strategol yw asesu effaith gyffredinol penderfyniadau gwariant Llywodraeth Cymru ac, fel y cyfryw, nid yw'n cynnwys asesiad effaith manwl o'r gostyngiad mewn cyllid ar gyfer llywodraeth leol. Mae gan awdurdodau lleol, wrth gwrs, gyfrifoldeb statudol i gynnal asesiadau effaith fel rhan o'u proses o bennu'r gyllideb, ac fe ddylent fod yn atebol am eu penderfyniadau gwario. Fodd bynnag, credwn fod rôl drosolwg i Lywodraeth Cymru o ran monitro pa mor gadarn yw'r asesiadau hyn yn ogystal â'u heffaith gronnol. Rydym yn croesawu eich ymrwymiad i ystyried y mater hwn ymhellach, ynghyd â'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus. Rydym yn edrych ymlaen at ganlyniad eich trafodaethau ac fe hoffem ichi adrodd yn ôl i'r Pwyllgor maes o law.
Trechu tlodi ac anghydraddoldeb
Yn eich tystiolaeth ysgrifenedig, rydych yn dweud bod penderfyniadau cyllidebol Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar ymrwymiad i drechu tlodi. Er bod y
pwynt hwn hefyd yn cael ei wneud drwy gydol yr Asesiad Effaith Integredig Strategol, roeddem yn siomedig ynghylch y diffyg gwybodaeth fanwl yn yr Asesiad i arddangos sut y mae'r ymrwymiad hwn yn dylanwadu ar benderfyniadau cyllidebol ar draws portffolios Gweinidogion. Hoffem gael manylion pellach gennych ar y mater hwn.
Dull y gyllideb ddrafft
Yn eich tystiolaeth, dywedoch fod gwaith Grŵp Cynghorol y Gyllideb ar Gydraddoldeb wedi tynnu sylw at yr angen i ganolbwyntio ar flaenoriaethau sy'n seiliedig ar asesiad o'r effaith gadarnhaol fwyaf. Darparwyd enghreifftiau o benderfyniadau a oedd wedi'u hysbysu gan y Grŵp Cynghorol, gan gynnwys diogelu cyllid ar gyfer Dechrau'n Deg, Cymunedau yn Gyntaf a Chefnogi Pobl, sy'n anelu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Er bod y dull hwn o flaenoriaethu cyllid i'w groesawu, mae'n dibynnu ar fonitro cadarn o wariant a chanlyniadau clir, mesuradwy, er mwyn bod yn effeithiol. I'r perwyl hwn, rydym yn tynnu eich sylw at ein pryderon parhaus ynghylch monitro a gwerthuso'r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, y byddwn yn eu codi eto yn ein llythyr at y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.
Rydym yn cydnabod buddion Atebolrwydd yn Seiliedig ar Ganlyniadau, nid yn unig o ran mesur perfformiad, ond fel offeryn i lywio penderfyniadau cyllido. Rydym yn cydnabod y gwaith sydd wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru i wella'r trefniadau ar gyfer asesu effeithiolrwydd ei rhaglenni allweddol a'r symudiad i ddull seiliedig ar ganlyniadau gan ddefnyddio Atebolrwydd yn Seiliedig ar Ganlyniadau. Hoffem gael rhagor o fanylion oddi wrthych am sut y mae hyn wedi helpu i lywio'r broses o bennu'r gyllideb, yn enwedig y penderfyniadau i amddiffyn y cyllid ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf.
Edrychaf ymlaen at gael eich ymateb maes o law.
Yn gywir
Christine Chapman AC
Cadeirydd
cc: Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid